Mae Plaid Cymru yn falch o gyflwyno tîm cryf a phrofiadol i gynrychioli etholaeth Clwyd yn Etholiad y Senedd 2026, dan arweiniad Llŷr Gruffydd.

Yn byw yn Rhuthun, mae Llŷr wedi bod yn Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru ers 2011, ac mae’n adnabyddus fel eiriolwr angerddol dros gymunedau ledled y gogledd. Wedi astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ganddo brofiad o weithio ym maes gwasanaethau ieuenctid, datblygu economaidd, ac fel ymgynghorydd rheoli gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru – profiad sydd wedi bod yn werthfawr iawn yn ei waith gwleidyddol.
Yn y Blaid, mae Llŷr wedi bod yn gyfrifol am gyllid, llywodraeth leol, yr amgylchedd a materion gwledig. Yn y Senedd, mae’n cadeirio’r pwyllgor ar newid hinsawdd, yr amgylchedd a seilwaith, ac mae hefyd yn eistedd ar sawl pwyllgor craffu arall. Mae ei waith yn dangos ei ymrwymiad clir i warchod adnoddau naturiol Cymru, cryfhau ein gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau bod gan Ogledd Cymru lais cryf ym Mae Caerdydd.
Mae Becca Martin wedi bod yn gynghorydd sir dros Acton a Maes-y-Dre ers 2021 ac mae’n ymgyrchydd cymunedol brwd. Mae hi’n mwynhau bod allan yn y gymuned – boed hynny’n ymgyrchu’n lleol ac yn genedlaethol, mynd i raliau a phrotestiadau, neu sefyll ar linellau piced. Mae Becca wastad yn fodlon stopio am sgwrs, ac mae’n falch o fod yn weledol ac yn agos at bobl. Mae hi’n benderfynol o sefyll dros ei chymuned ac nid yw’n ofni herio’r sefyllfa bresennol.
“Dwi wedi dewis sefyll dros Blaid Cymru achos dwi eisiau helpu i greu dyfodol gwell i fy mab – cymdeithas lle mae’n gallu tyfu i fyny mewn tegwch, gyda cyfleoedd ac efo gobaith. Dwi’n benderfynol o wneud yn siŵr fod ein cymunedau ni’n cael llais cryf, a bod y newidiadau rydyn ni’n ymladd drostyn nhw heddiw yn helpu’r genhedlaeth nesaf.”
Mae gan Oli Bradley-Hughes wreiddiau dwfn yn y Clwyd – cafodd ei eni ym Modelwyddan a’i fagu yn Hen Golwyn a Rhuthun. Mae e’n byw rŵan yn Llanelwy gyda’i wraig. Mae Oli’n gweithio fel tiwtor Cymraeg i oedolion ac fel athro cyflenwi cynradd, ac mae hefyd wedi dysgu mewn ysgol uwchradd. Mae ganddo radd mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd, ac mae wastad wedi bod yn frwd dros hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel cynghorydd yn Rhuthun.
“Dwi wedi dewis sefyll dros Blaid Cymru achos dwi eisiau rhoi llais i bobl ifanc yn y Senedd, a brwydro dros Gymru sy’n rhoi ei phobl yn gyntaf. Mae angen cyllid teg arnon ni, mwy o gyfleoedd gwaith, gwell trafnidiaeth, a chefnogaeth gref i’n hiaith, ein diwylliant a’n cymunedau. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu llywodraeth hyderus ac uchelgeisiol sy’n wirioneddol sefyll dros Gymru.”
Gyda’i gilydd, mae Llŷr, Becca ac Oli yn dîm egnïol sy’n cyfuno profiad gyda syniadau newydd. Maen nhw’n benderfynol o sefyll dros bobl Clwyd a sicrhau fod lleisiau lleol yn cael eu clywed yng nghanol democratiaeth Cymru.