Deiseb Treth Etifeddiant

Rhaid i Lafur wrthdroi’r dreth ar ffermydd Cymru!

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi’r newidiadau sydd ar y gweill i Ryddhad Eiddo Amaethyddol (APR) - polisi hynod annheg sy'n targedu'r bobl sy'n ein bwydo, yn gofalu am ein tir, ac yn cynnal ein cymunedau gwledig. Bydd yn gwneud niwed parhaol i ffermydd teuluol Cymru.

Mae ffermwyr yn barod o dan bwysau aruthrol. Mae’r polisi hwn ond yn creu straen ychwanegol.

Felly rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i:

  • Asesu effaith penodol i Gymru sy'n cynnwys ffermydd teuluol tenantiaid
  • Amddiffyn ffermydd teuluol sy'n cynhyrchu bwyd rhag treth etifeddiant
  • Cyflwyno treth ar y mwyaf cyfoethog yn lle’r cynlluniau presennol - drwy dargedu asedau gwerth dros £10 miliwn

Bydd Plaid Cymru yn ymladd yn erbyn y dreth fferm deuluol yr holl ffordd.

Os ydych chi'n cytuno na ddylai ffermydd teuluol orfod ysgwyddo'r baich treth enfawr hwn, llofnodwch a rhannwch!

120 wedi llofnodi hyd yn hyn. Helpa ni i gyrraedd 140!

Wnei di lofnodi?