Wrth edrych ymlaen at etholiad y Senedd yn 2026, rydym yn falch o gyflwyno tîm ymgeiswyr ymroddedig Plaid Cymru ar gyfer Clwyd, dan arweiniad Llŷr Gruffydd. Yn ogystal â Becca Martin, Oli Bradley-Hughes, a'n tîm llawn o aelodau ac ymgyrchwyr, maent yn barod i ymgyrchu dros ddyfodol disglair ar gyfer ein cymunedau – o Landrillo yn Rhos i Dreffynnon, o'r Rhyl i Langollen.
Gyda chefnogaeth sy'n tyfu a gweledigaeth glir ar gyfer newid cadarnhaol, mae Plaid Cymru yn cynnig yr arweinyddiaeth a'r egni sydd ei angen ar Gymru.
Ymunwch â ni wrth i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu mudiad hyderus ac uchelgeisiol dros ein cymunedau – a dros Gymru gyfan.