Ymgeiswyr Plaid Cymru yn trafod dyfodol cymunedau gwledig yn Sioe Dinbych a Fflint

Ymgeiswyr Plaid Cymru yn trafod dyfodol cymunedau gwledig yn Sioe Dinbych a Fflint

Ymwelodd ymgeiswyr Plaid Cymru â Sioe Dinbych a Fflint ddoe, gan gwrdd â ffermwyr, busnesau a sefydliadau lleol, gan gynnwys cynrychiolwyr o NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, i drafod prif faterion sy’n effeithio ar gymunedau gwledig.

Ymhlith y pynciau a drafodwyd oedd:

  • Newidiadau arfaethedig i’r Dreth Etifeddiant a’u heffaith ar ddyfodol ffermydd teuluol

  • Diffyg ymyraeth gan y llywodraeth i fynd i’r afael â TB gwartheg mewn bywyd gwyllt

  • Pryderon am roi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar waith a’i effaith ar y diwydiant

  • Cynigion ar gyfer Parc Cenedlaethol Bryniau Clwyd a’u heffaith ar y gymunedau lleol

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Llŷr Gruffydd:

“Mae cefnogi ein ffermwyr a’n cymunedau gwledig yn flaenoriaeth. Mae’r heriau sy’n wynebu’r sector amaethyddol yn niferus ac yn gymhleth. Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir yn ein gwrthwynebiad i gynigion y Llywodraeth DU ar IHT ac rydym wedi annog Llywodraeth Cymru yn barhaus i weithredu’n benderfynol ar TB gwartheg mewn bywyd gwyllt. Mae’r sioe bob amser yn gyfle da i glywed yn uniongyrchol gan y rhai sy’n cael eu heffeithio er mwyn i ni ddeall eu safbwyntiau’n llawn a’u cynrychioli. Bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda chymunedau ffermio i ddatblygu atebion ymarferol a all helpu ein hardaloedd gwledig i ffynnu.”

Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i’r ymgeiswyr gysylltu â thrigolion lleol a chael gwell dealltwriaeth o’r materion sy’n wynebu Cymru wledig, gan amlygu ymrwymiad parhaus Plaid Cymru i gefnogi cymunedau ffermio.